1. Gwelwyd arwydd mawr yn y nef, gwraig wedi ei gwisgo â'r haul, a'r lleuad dan ei thraed a choron o ddeuddeg seren ar ei phen.
2. Yr oedd yn feichiog, ac yn gweiddi yn ei gwewyr a'i hing am gael esgor.
3. Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem.
4. Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.
5. Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef.
6. Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
7. Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau,
8. ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.
9. Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.
10. Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud:“Hon yw awr gwaredigaeth a gallua brenhiniaeth ein Duw ni,ac awdurdod ei Grist ef,oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr,yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.