Datguddiad 11:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tân allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt.

6. Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear â phob pla mor aml ag y mynnant.

7. Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd.

8. Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd.

Datguddiad 11