Datguddiad 11:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.

14. Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.

15. Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud:“Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef,a bydd yn teyrnasu byth bythoedd.”

16. A dyma'r pedwar henuriad ar hugain, sy'n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw

17. gan ddweud:“Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog,yr hwn sydd a'r hwn oedd,am iti feddiannu dy allu mawra dechrau teyrnasu.

Datguddiad 11