Datguddiad 10:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Yr oedd yn dal yn ei law sgrôl fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y môr a'r un chwith ar y tir.

3. Yna gwaeddodd â llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.

4. Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, “Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sêl; paid â'u hysgrifennu.”

5. A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tiryn codi ei law dde i'r nef

6. ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd,yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r môr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: “Ni bydd oedi mwy;

Datguddiad 10