Daniel 8:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, “Gabriel, esbonia'r weledigaeth.”

17. Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, “Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth.”

18. Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,

19. a dweud, “Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.

20. Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.

21. Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.

Daniel 8