Daniel 7:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.

26. Yna bydd y llys yn eistedd, a dygir ymaith ei arglwyddiaeth, i'w distrywio a'i difetha'n llwyr.

27. A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt.”

28. Dyma ddiwedd yr hanes; ac yr oeddwn i, Daniel, wedi fy nghynhyrfu'n fawr ac yn welw, ond cedwais y pethau hyn i mi fy hun.

Daniel 7