Daniel 6:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, “Heddwch fo i chwi!

26. Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel.”“Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol;ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.

27. Y mae'n achub ac yn gwaredu,yn gwneud arwyddion a rhyfeddodauyn y nefoedd ac ar y ddaear;ef a achubodd Daniel o afael y llewod.”

28. A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.

Daniel 6