Daniel 4:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf â mi.

3. Mor fawr yw ei arwyddion ef,mor nerthol ei ryfeddodau!Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol,a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

4. “Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhŷ a moethusrwydd yn fy llys.

5. Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf.

Daniel 4