Daniel 3:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. dywedodd, “Sadrach, Mesach ac Abednego, a yw'n wir nad ydych yn gwasanaethu fy nuwiau i nac yn addoli'r ddelw aur a wneuthum?

15. Yn awr, a ydych yn barod i syrthio ac addoli'r ddelw a wneuthum, pan glywch sŵn y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn? Os na wnewch, teflir chwi ar unwaith i ganol ffwrnais o dân poeth. Pa dduw a all eich gwaredu o'm gafael?”

16. Atebodd Sadrach, Mesach ac Abednego y brenin, “Nid oes angen i ni dy ateb ynglŷn â hyn.

17. Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin;

18. a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost.”

19. Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego.

20. Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais dân.

21. Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad—cotiau, crysau a chapiau—a'u taflu i ganol y ffwrnais dân.

22. Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth,

23. yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r tân, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais dân.

24. Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, “Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y tân?” “Gwir, O frenin,” oedd yr ateb.

25. “Ond,” meddai yntau, “rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y tân, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau.”

Daniel 3