14. Ymresymodd Daniel yn ddoeth a phwyllog ag Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, pan ddaeth i ladd y doethion.
15. Dywedodd wrtho, “Ti, gennad y brenin, pam y mae dedfryd y brenin mor chwyrn?”
16. Eglurodd Arioch y cyfan i Daniel, ac aeth Daniel at y brenin a gofyn am amser, iddo gael cyfle i fynegi'r dehongliad iddo.
17. Yna aeth Daniel i'w dŷ ac adrodd yr hanes wrth ei gyfeillion, Hananeia, Misael ac Asareia,
18. a'u hannog hwy i erfyn am drugaredd gan Dduw'r nefoedd ynglŷn â'r dirgelwch hwn, rhag i Daniel a'i gyfeillion gael eu difa gyda'r gweddill o ddoethion Babilon.
19. Datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos. Bendithiodd Daniel Dduw'r nefoedd, a dyma'i eiriau:
20. “Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd;eiddo ef yw doethineb a nerth.
21. Ef sy'n newid amserau a thymhorau,yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer,yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus.
22. Ef sy'n datguddio pethau dwfn a chuddiedig,yn gwybod yr hyn sydd yn dywyll;gydag ef y trig goleuni.