Daniel 11:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Daw rhai o'i filwyr a halogi'r cysegr a'r amddiffynfa, a dileu'r offrwm beunyddiol a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol.

32. Trwy ei weniaith fe ddena'r rhai sy'n torri'r cyfamod, ond bydd y bobl sy'n adnabod eu Duw yn gweithredu'n gadarn.

33. Bydd y deallus ymysg y bobl yn dysgu'r lliaws, ond am ryw hyd byddant yn syrthio trwy gleddyf a thân, trwy gaethiwed ac anrhaith.

Daniel 11