7. Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio.
8. Gadawyd fi ar fy mhen fy hun i edrych ar y weledigaeth fawr hon; pallodd fy nerth, newidiodd fy ngwedd yn arswydus, ac euthum yn wan.
9. Fe'i clywais yn siarad, ac wrth wrando ar sŵn ei eiriau syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg.
10. Yna cyffyrddodd llaw â mi, a'm gosod yn sigledig ar fy ngliniau a'm dwylo,
11. a dywedodd wrthyf, “Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat.” Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig.
12. Yna dywedodd wrthyf, “Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i.
13. Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.
14. Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd.”
15. Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim.