Daniel 10:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol â'm gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, “F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth.

17. Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?”

18. Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol â mi a'm cryfhau,

19. a dweud, “Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf.” Ac fel yr oedd yn siarad â mi cefais nerth, a dywedais, “Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi.”

20. Yna dywedodd, “A wyddost pam y deuthum atat? Dywedaf wrthyt beth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gwirionedd. Rwy'n dychwelyd yn awr i ymladd â thywysog Persia, ac wedyn fe ddaw tywysog Groeg.

21. Ac nid oes neb yn fy nghynorthwyo yn erbyn y rhai hyn ar wahân i'ch tywysog Mihangel.”

Daniel 10