Daniel 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia rhoddwyd datguddiad i Daniel, a elwid Beltesassar. Yr oedd yn ddatguddiad gwir, er ei bod yn ymdrech fawr ei ddeall; ond rhoddwyd iddo ddeall trwy'r weledigaeth.

2. Yn y dyddiau hynny, yr oeddwn i, Daniel, mewn galar am dair wythnos.

3. Ni fwyteais ddanteithion ac ni chyffyrddais â chig na gwin, ac nid irais fy hun am y tair wythnos gyfan.

4. Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf, a minnau'n eistedd ar lan yr afon fawr, afon Tigris,

Daniel 10