Colosiaid 4:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thŷ.

16. A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea.

17. A dywedwch wrth Archipus, “Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti.”

Colosiaid 4