Colosiaid 4:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr wyf yn tystio amdano ei fod yn llafurio'n ddygn trosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea ac yn Hierapolis.

14. Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas yn eich cyfarch.

15. Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thŷ.

16. A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea.

17. A dywedwch wrth Archipus, “Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti.”

18. Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod yng ngharchar. Gras fyddo gyda chwi!

Colosiaid 4