Colosiaid 1:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,

14. yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.

15. Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;

16. oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.

17. Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.

Colosiaid 1