Caniad Solomon 7:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmela gwallt dy ben fel porffor,a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.

6. Mor brydferth, mor hardd wyt,fy anwylyd, y fwyaf dymunol.

7. Y mae dy gorff fel palmwydden,a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.

8. Dywedais, “Dringaf y balmwydden,a gafael yn ei brigau.”Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,ac arogl dy anadl fel afalau,

9. a'th wefusau fel y gwin gorauyn llifo'n esmwyth mewn cariad,ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.

Caniad Solomon 7