Caniad Solomon 6:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Er bod trigain o freninesaua phedwar ugain o ordderchwragedd,a llancesau na ellir eu rhifo,

9. y mae fy ngholomen, yr un berffaith,ar ei phen ei hun,unig blentyn ei mam,y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.

10. Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr,yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul,yn urddasol fel llu banerog?

11. Euthum i lawr i'w ardd gnaui edrych ar ffrwythau'r dyffryn,a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,a blodau ar y pomgranadau.

12. Ni wyddwn y cawn fy rhoiyng ngherbydau perthnasau'r tywysog.

13. Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.O fel yr hoffwch edrych ar y Sulamesyn dawnsio rhwng y rhengoedd!

Caniad Solomon 6