Caniad Solomon 6:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Euthum i lawr i'w ardd gnaui edrych ar ffrwythau'r dyffryn,a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,a blodau ar y pomgranadau.

12. Ni wyddwn y cawn fy rhoiyng ngherbydau perthnasau'r tywysog.

13. Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.O fel yr hoffwch edrych ar y Sulamesyn dawnsio rhwng y rhengoedd!

Caniad Solomon 6