Caniad Solomon 5:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;a oes raid imi ei gwisgo eto?Yr wyf wedi golchi fy nhraed;a oes raid imi eu maeddu eto?

4. Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.

5. Codais i agor i'm cariad,ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.

6. Pan agorais i'm cariad,yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;chwiliais amdano, ond heb ei gael;gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.

7. Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,wrth iddynt fynd o amgylch y dref,a rhoesant gurfa imi a'm niweidio;bu i'r rhai oedd yn gwylio'r murddwyn fy mantell oddi arnaf.

8. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.Os dewch o hyd i'm cariad,dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.

9. A yw dy gariad di yn well nag eraill,O ti, y decaf o ferched?A yw dy gariad di yn well nag eraill,i beri iti ymbil fel hyn arnom?

10. Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,yn sefyll allan ymysg deng mil.

11. Y mae ei ben fel aur coeth,a'i wallt yn gyrliog,yn ddu fel y frân.

12. Y mae ei lygaid fel colomennodwrth ffrydiau dŵr,wedi eu golchi â llaeth,a'u gosod yn briodol yn eu lle.

13. Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiauyn gwasgaru persawr;y mae ei wefusau fel lilïauyn diferu o fyrr rhedegog.

14. Y mae ei ddwylo fel dysglau auryn llawn gemau;y mae ei gorff fel gwaith iforiwedi ei orchuddio â saffir.

15. Y mae ei goesau fel colofnau o farmor,wedi eu gosod ar sylfaen o aur,a'i ymddangosiad fel Lebanon,mor urddasol â'r cedrwydd.

16. Y mae ei wefusau yn felys;y mae popeth ynddo'n ddymunol.Un fel hyn yw fy nghariad,un fel hyn yw fy nghyfaill,O ferched Jerwsalem.

Caniad Solomon 5