Caniad Solomon 5:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch;cesglais fy myrr a'm perlysiau,a bwyta fy niliau a'm mêl,ac yfed fy ngwin a'm llaeth.Gyfeillion, bwytewch ac yfwch,nes meddwi ar gariad.

2. Yr oeddwn yn cysgu, ond â'm calon yn effro.Ust! Y mae fy nghariad yn curo:“Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd,fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg,oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith,a'm barf o ddefnynnau'r nos.”

3. Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;a oes raid imi ei gwisgo eto?Yr wyf wedi golchi fy nhraed;a oes raid imi eu maeddu eto?

4. Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.

5. Codais i agor i'm cariad,ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.

Caniad Solomon 5