Caniad Solomon 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mor brydferth wyt, f'anwylyd,mor brydferth wyt!Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod,a'th wallt fel diadell o eifryn dod i lawr o Fynydd Gilead.

2. Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifioyn dod i fyny o'r olchfa,y cwbl ohonynt yn efeilliaid,heb un yn amddifad.

3. Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,a'th enau yn hyfryd;y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.

Caniad Solomon 4