Cân Y Tri Llanc 1:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Do, pechasom, a thorasom dy gyfraith trwy gefnu arnat.

7. Ym mhob peth pechasom, ac ni wrandawsom ar dy orchmynion,na'u cadw hwy, na gweithredufel y gorchmynnaist inni er ein lles.

8. A phob peth a ddygaist arnom, a phob peth a wnaethost inni,mewn barn gywir y gwnaethost y cwbl.

9. Traddodaist ni i ddwylo gelynion digyfraith, yr atgasaf o'r di-gred,ac i frenin anghyfiawn, y mwyaf drygionus ar wyneb yr holl ddaear.

10. Ac yn awr ni allwn agor ein genau;cywilydd a gwaradwydd a ddaeth i ran dy weision a'th addolwyr di.

Cân Y Tri Llanc 1