Cân Y Tri Llanc 1:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Bendigedig wyt ti yn dy deml sanctaidd a gogoneddus;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th glodfori dros byth.

32. Bendigedig wyt ti, sy'n gwylio'r dyfnderoedd o'th eisteddle uwchben y cerwbiaid;moliannus a thra dyrchafedig wyt dros byth.

33. Bendigedig wyt ti ar orsedd dy frenhiniaeth;tra theilwng wyt i'th foliannu a'th ddyrchafu dros byth.

34. Bendigedig wyt ti yn ffurfafen y nef;teilwng wyt i'th foliannu a'th ogoneddu dros byth.

Cân Y Tri Llanc 1