Cân Y Tri Llanc 1:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Gwared ni yn ôl dy ryfeddodau,a dyro ogoniant i'th enw, O Arglwydd.

21. Cywilyddier pawb sy'n peri niwed i'th weision;gwaradwydder hwy nes iddynt golli pob gallu ac arglwyddiaeth,a dryllier eu nerth hwy.

22. Gad iddynt wybod mai tydi yw'r Arglwydd, yr unig Dduw,a'th ogoniant yn ymledu dros yr holl fyd.”

23. Yr oedd gweision y brenin, y rheini a'u taflodd i mewn, yn dal i boethi'r ffwrnais â nafftha a phyg ac â ffaglau a choed tân,

Cân Y Tri Llanc 1