Bel A'r Ddraig 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi marw'r Brenin Astyages, fe gymerodd Cyrus y Persiad ei orsedd.

2. Yr oedd Daniel yn byw gyda'r brenin, ac yn uwch ei anrhydedd na neb arall o Gyfeillion y Brenin.

3. Yr oedd gan y Babiloniaid eilun o'r enw Bel, a byddent yn darparu iddo bob dydd ddeuddeng mesur o beilliaid, deugain dafad, a chwe mesur o win.

4. Byddai'r brenin yn ei addoli, ac yn mynd bob dydd i ymgrymu iddo. Ond i'w Dduw ei hun y byddai Daniel yn ymgrymu.

Bel A'r Ddraig 1