Baruch 5:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Diosg, O Jerwsalem, wisg dy alar a'th adfyd, a gwisg am byth harddwch y gogoniant sy'n tarddu o Dduw.

2. Rho amdanat fantell y cyfiawnder sydd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragwyddol.

3. Oherwydd fe ddengys Duw dy ddisgleirdeb i bob gwlad dan y nefoedd.

Baruch 5