Baruch 4:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwyn ein byd, Israel, am ein bod yn gwybod y pethau sydd wrth fodd Duw.

5. Codwch eich calon, fy mhobl, chwi sy'n cadw coffadwriaeth Israel.

6. Nid i'ch difetha y gwerthwyd chwi i'r cenhedloedd, ond am i chwi gynhyrfu dicter Duw y'ch traddodwyd i ddwylo eich gelynion.

7. Cythruddo'ch Creawdwr a wnaethoch trwy offrymu i gythreuliaid ac nid i Dduw.

8. Anghofiasoch y Duw tragwyddol a'ch maethodd, a thristáu Jerwsalem, a'ch meithrinodd.

9. Oherwydd gwelodd hi'r dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw, a dywedodd, “Gwrandewch, chwi gymdogion Seion; dygodd Duw dristwch mawr arnaf.

10. Gwelais y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.

11. Meithrinais hwy mewn llawenydd, ond anfonais hwy i ffwrdd â dagrau a thristwch.

12. Peidied neb â llawenhau o'm gweld yn weddw ac yn amddifad o gymaint ohonynt. Gadawyd fi'n unig o achos pechodau fy mhlant, am iddynt droi oddi wrth gyfraith Duw.

13. Ni ddysgasant ei ddeddfau, na rhodio yn ffyrdd ei orchmynion, na throedio llwybrau dysg yn unol â'i gyfiawnder ef.”

14. Dewch, gymdogion Seion. Cofiwch y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.

Baruch 4