Baruch 4:35-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Fe ddaw tân arni oddi wrth y Tragwyddol dros lawer o ddyddiau, a bydd cythreuliaid yn preswylio ynddi am amser maith.

36. Edrych tua'r dwyrain, O Jerwsalem, a gwêl y llawenydd sy'n dod iti oddi wrth Dduw.

37. Dyma'r plant a anfonaist ymaith yn dod, wedi eu casglu ynghyd o'r dwyrain i'r gorllewin ar orchymyn yr Un Sanctaidd, ac yn llawenhau yng ngogoniant Duw.

Baruch 4