Baruch 4:31-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Gwae y rhai a wnaeth niwed iti a llawenhau yn dy gwymp.

32. Gwae'r dinasoedd lle bu dy blant yn gaethweision; gwae'r ddinas a dderbyniodd dy epil.

33. Fel y bu lawen ganddi dy gwymp di, a hyfryd ganddi dy anffawd, felly y bydd yn athrist ganddi ei chyflwr diffaith ei hun.

34. Torraf ymaith y tyrfaoedd y gorfoleddai ynddynt, a throi ei balchder yn dristwch.

35. Fe ddaw tân arni oddi wrth y Tragwyddol dros lawer o ddyddiau, a bydd cythreuliaid yn preswylio ynddi am amser maith.

36. Edrych tua'r dwyrain, O Jerwsalem, a gwêl y llawenydd sy'n dod iti oddi wrth Dduw.

37. Dyma'r plant a anfonaist ymaith yn dod, wedi eu casglu ynghyd o'r dwyrain i'r gorllewin ar orchymyn yr Un Sanctaidd, ac yn llawenhau yng ngogoniant Duw.

Baruch 4