Baruch 4:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Cod dy galon, Jerwsalem. Bydd yr Un a'th enwodd di yn dy gysuro.

31. Gwae y rhai a wnaeth niwed iti a llawenhau yn dy gwymp.

32. Gwae'r dinasoedd lle bu dy blant yn gaethweision; gwae'r ddinas a dderbyniodd dy epil.

33. Fel y bu lawen ganddi dy gwymp di, a hyfryd ganddi dy anffawd, felly y bydd yn athrist ganddi ei chyflwr diffaith ei hun.

Baruch 4