Baruch 4:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Paid â rhoi dy ogoniant i arall, na'th freintiau i genedl estron.

4. Gwyn ein byd, Israel, am ein bod yn gwybod y pethau sydd wrth fodd Duw.

5. Codwch eich calon, fy mhobl, chwi sy'n cadw coffadwriaeth Israel.

6. Nid i'ch difetha y gwerthwyd chwi i'r cenhedloedd, ond am i chwi gynhyrfu dicter Duw y'ch traddodwyd i ddwylo eich gelynion.

7. Cythruddo'ch Creawdwr a wnaethoch trwy offrymu i gythreuliaid ac nid i Dduw.

8. Anghofiasoch y Duw tragwyddol a'ch maethodd, a thristáu Jerwsalem, a'ch meithrinodd.

9. Oherwydd gwelodd hi'r dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw, a dywedodd, “Gwrandewch, chwi gymdogion Seion; dygodd Duw dristwch mawr arnaf.

10. Gwelais y caethiwed a ddug y Duw tragwyddol ar fy meibion a'm merched.

11. Meithrinais hwy mewn llawenydd, ond anfonais hwy i ffwrdd â dagrau a thristwch.

12. Peidied neb â llawenhau o'm gweld yn weddw ac yn amddifad o gymaint ohonynt. Gadawyd fi'n unig o achos pechodau fy mhlant, am iddynt droi oddi wrth gyfraith Duw.

Baruch 4