Baruch 4:21-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, ac fe'ch gwared o ormes ac o ddwylo'ch gelynion.

22. Oherwydd ar y Duw tragwyddol y seiliais fy ngobaith am eich gwaredigaeth, a daeth i mi lawenydd oddi wrth yr Un Sanctaidd ar gyfrif y drugaredd a ddaw yn fuan atoch oddi wrth eich gwaredwr tragwyddol.

23. Anfonais chwi allan â thristwch a dagrau, ond fe rydd Duw chwi'n ôl i mi â sirioldeb a llawenydd am byth.

24. Fel y mae cymdogion Seion yn awr wedi gweld eich caethiwed, yn fuan fe gânt weld y waredigaeth a ddaw arnoch oddi wrth eich Duw, y Duw tragwyddol, â gogoniant mawr ac ysblander.

25. Fy mhlant, dioddefwch yn amyneddgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw. Y mae dy elyn wedi dy erlid, ond yn fuan cei weld ei ddinistr ef, a gosod dy droed ar ei wddf.

26. Y mae fy mhlant anwes wedi rhodio ar hyd llwybrau garw; fe'u cipiwyd i ffwrdd fel praidd a aeth yn ysglyfaeth gelynion.

27. Codwch eich calon, fy mhlant. Llefwch ar Dduw, oherwydd bydd yr Un a ddug y pethau hyn arnoch yn cofio amdanoch.

28. Fel y bu eich bryd ar fynd ar gyfeiliorn oddi wrth Dduw, trowch yr eich ôl a'i geisio ef ddengwaith mwy.

29. Bydd yr Un a ddug y drygau hyn arnoch yn dwyn ichwi lawenydd tragwyddol ynghyd â'ch iachawdwriaeth.

30. Cod dy galon, Jerwsalem. Bydd yr Un a'th enwodd di yn dy gysuro.

31. Gwae y rhai a wnaeth niwed iti a llawenhau yn dy gwymp.

32. Gwae'r dinasoedd lle bu dy blant yn gaethweision; gwae'r ddinas a dderbyniodd dy epil.

33. Fel y bu lawen ganddi dy gwymp di, a hyfryd ganddi dy anffawd, felly y bydd yn athrist ganddi ei chyflwr diffaith ei hun.

34. Torraf ymaith y tyrfaoedd y gorfoleddai ynddynt, a throi ei balchder yn dristwch.

35. Fe ddaw tân arni oddi wrth y Tragwyddol dros lawer o ddyddiau, a bydd cythreuliaid yn preswylio ynddi am amser maith.

36. Edrych tua'r dwyrain, O Jerwsalem, a gwêl y llawenydd sy'n dod iti oddi wrth Dduw.

37. Dyma'r plant a anfonaist ymaith yn dod, wedi eu casglu ynghyd o'r dwyrain i'r gorllewin ar orchymyn yr Un Sanctaidd, ac yn llawenhau yng ngogoniant Duw.

Baruch 4