Baruch 4:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Oherwydd fe gododd yn eu herbyn genedl o wlad bell, cenedl ddidostur ac anghyfiaith, heb na pharch at yr hen na thosturi at blant.

16. Dygasant ymaith blant annwyl y weddw, a'i gadael hi'n unig, yn amddifad o'i merched.

17. A myfi, pa gymorth a allaf ei roi i chwi?

18. Fe'ch gwaredir o ddwylo eich gelynion gan yr Un a ddug y drygau hyn arnoch.

19. Ewch ymaith, fy mhlant, ewch ymaith, oherwydd gadawyd fi'n amddifad.

20. Diosgais wisg tangnefedd, a rhoi amdanaf sachliain ymbiliwr. Galwaf ar yr Arglwydd tragwyddol tra byddaf byw.

Baruch 4