Baruch 3:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwrando, Israel, ar orchmynion y bywyd. Clyw, a dysg ddeall.

10. Pam, Israel, pam yr wyt ti yng ngwlad dy elynion, yn heneiddio mewn gwlad estron, wedi dy halogi gan y meirw,

11. a'th gyfrif gyda'r rhai sydd yn Nhrigfan y Meirw?

12. Am i ti gefnu ar ffynnon doethineb.

13. Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.

14. Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.

Baruch 3