7. Er mwyn hyn y gosodaist dy ofn yn ein calon, i beri inni alw ar dy enw. Moliannwn di yn ein halltudiaeth, am inni droi oddi wrthym holl droseddau ein hynafiaid, a bechodd yn dy erbyn.
8. Dyma ni heddiw yn ein halltudiaeth, lle y gwasgeraist ni, i fod yn gyff gwawd a melltith, ac i dderbyn y gosb am holl bechodau ein hynafiaid, a gefnodd ar yr Arglwydd ein Duw.’ ”
9. Gwrando, Israel, ar orchmynion y bywyd. Clyw, a dysg ddeall.
10. Pam, Israel, pam yr wyt ti yng ngwlad dy elynion, yn heneiddio mewn gwlad estron, wedi dy halogi gan y meirw,
11. a'th gyfrif gyda'r rhai sydd yn Nhrigfan y Meirw?
12. Am i ti gefnu ar ffynnon doethineb.
13. Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.
14. Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.
15. Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?