Baruch 3:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Ef sy'n anfon allan y goleuni, ac y mae'n mynd; yn galw arno, ac y mae'n ufuddhau iddo mewn dychryn.

34. Llewyrchodd y sêr yn llawen yn eu gwyliadwriaethau; a phan alwodd ef arnynt, dywedasant, “Dyma ni”, a llewyrchu'n llawen i'w creawdwr.

35. Ef yw ein Duw ni, ac nid oes arall i'w gyffelybu iddo.

36. Darganfu holl ffordd gwybodaeth, a'i rhoi i Jacob ei was ac i Israel ei anwylyd.

Baruch 3