3. Yr wyt ti ar dy orsedd dragwyddol, a ninnau ar lwybr distryw tragwyddol.
4. O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, gwrando ar weddi meirwon Israel aphlant y rhai a bechodd yn dy erbyn heb wrando ar lais yr Arglwydd eu Duw. Dyna pam y glynodd y drygau hyn wrthym ni.
5. Paid â chofio troseddau ein hynafiaid, ond cofia yr awr hon dy allu a'th enw dy hun;
6. oherwydd ti yw'r Arglwydd ein Duw ni, a thydi, Arglwydd, a foliannwn.
7. Er mwyn hyn y gosodaist dy ofn yn ein calon, i beri inni alw ar dy enw. Moliannwn di yn ein halltudiaeth, am inni droi oddi wrthym holl droseddau ein hynafiaid, a bechodd yn dy erbyn.
8. Dyma ni heddiw yn ein halltudiaeth, lle y gwasgeraist ni, i fod yn gyff gwawd a melltith, ac i dderbyn y gosb am holl bechodau ein hynafiaid, a gefnodd ar yr Arglwydd ein Duw.’ ”
9. Gwrando, Israel, ar orchmynion y bywyd. Clyw, a dysg ddeall.
10. Pam, Israel, pam yr wyt ti yng ngwlad dy elynion, yn heneiddio mewn gwlad estron, wedi dy halogi gan y meirw,
11. a'th gyfrif gyda'r rhai sydd yn Nhrigfan y Meirw?
12. Am i ti gefnu ar ffynnon doethineb.
13. Pe bait wedi rhodio yn ffordd Duw, byddit yn byw mewn heddwch am byth.
14. Dysg pa le y mae deall, pa le y mae nerth, pa le y mae amgyffred, er mwyn dysgu hefyd pa le y mae hir oes a bywyd, pa le y mae goleuni i'r llygaid, a thangnefedd.
15. Pwy sydd wedi cael hyd i drigle doethineb? Pwy sydd wedi mynd i mewn i'w thrysorfa hi?
16. Pa le y mae llywodraethwyr y cenhedloedd, a'r rhai sy'n dofi anifeiliaid gwyllt y ddaear, a'r rhai sy'n hudo adar yr awyr?
17. Pa le y mae'r rhai sy'n pentyrru'r arian a'r aur y mae pobl yn ymddiried ynddynt, ac yn ymgiprys amdanynt yn ddiddiwedd?
18. Pa le y mae'r gofaint arian, a'u gofal mawr a chyfrinion eu crefft?
19. Y maent wedi diflannu a disgyn i Drigfan y Meirw, ac eraill wedi codi i gymryd eu lle.