Baruch 3:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Pwy a ddringodd i'r nefoedd i gael gafael ynddi a'i dwyn i lawr o'r cymylau?

30. Pwy a groesodd y môr i gael hyd iddi, a'i phrynu ag aur pur?

31. Nid oes neb sy'n gwybod ei ffordd nac yn adnabod ei llwybr.

32. Ond yr Un sy'n gwybod pob peth, y mae ef yn ei hadnabod hi; darganfu ef hi trwy ei ddeall. Ef a sefydlodd y ddaear am byth, a'i llenwi â phedwarcarnolion.

33. Ef sy'n anfon allan y goleuni, ac y mae'n mynd; yn galw arno, ac y mae'n ufuddhau iddo mewn dychryn.

Baruch 3