Baruch 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “ ‘O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, enaid trallodus ac ysbryd llesg sy'n galw arnat.

2. Gwrando, Arglwydd, a thrugarha, oherwydd pechasom yn dy erbyn.

3. Yr wyt ti ar dy orsedd dragwyddol, a ninnau ar lwybr distryw tragwyddol.

4. O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, gwrando ar weddi meirwon Israel aphlant y rhai a bechodd yn dy erbyn heb wrando ar lais yr Arglwydd eu Duw. Dyna pam y glynodd y drygau hyn wrthym ni.

Baruch 3