Baruch 1:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Dyma'r pryd y cymerodd Baruch lestri tŷ'r Arglwydd, a oedd wedi eu dwyn o'r deml, i'w dychwelyd i wlad Jwda, ar y degfed dydd o fis Sifan.

9. Y rhain oedd y llestri arian yr oedd Sedeceia fab Joseia brenin Jwda wedi eu gwneud ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, a'r tywysogion a'r carcharorion a'r mawrion a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon.

10. Dywedasant: “Dyma ni'n anfon atoch arian. Prynwch â'r arian boethoffrymau ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; darparwch offrwm o rawn a'i offrymu ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.

11. A gweddïwch dros fywyd Nebuchadnesar brenin Babilon, a thros fywyd Belsassar ei fab ef, ar i'w dyddiau fod fel dyddiau'r nefoedd ar y ddaear.

Baruch 1