10. Dywedasant: “Dyma ni'n anfon atoch arian. Prynwch â'r arian boethoffrymau ac aberthau dros bechod, ac arogldarth; darparwch offrwm o rawn a'i offrymu ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.
11. A gweddïwch dros fywyd Nebuchadnesar brenin Babilon, a thros fywyd Belsassar ei fab ef, ar i'w dyddiau fod fel dyddiau'r nefoedd ar y ddaear.
12. Yna fe rydd yr Arglwydd i ni nerth, a golau i'n llygaid, a chawn fyw dan nawdd Nebuchadnesar brenin Babilon a than nawdd Belsassar ei fab. Rhown iddynt wasanaeth am gyfnod maith, a chael ffafr yn eu golwg.
13. Gweddïwch hefyd ar yr Arglwydd ein Duw drosom ni, oherwydd i ni bechu yn ei erbyn; ac nid yw llid yr Arglwydd a'i ddicter wedi troi ymaith oddi wrthym hyd y dydd hwn.
14. “Yr ydych i ddarllen y llyfr hwn a anfonwn atoch, a gwneud eich cyffes yn nhŷ'r Arglwydd ar ddydd gŵyl ac ar ddyddiau penodedig,
15. a dweud: ‘I'r Arglwydd ein Duw y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wyneb hyd y dydd hwn, i bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,
16. i'n brenhinoedd a'n llywodraethwyr a'n hoffeiriaid a'n proffwydi, ac i'n hynafiaid.