Barnwyr 9:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin.

9. Dywedasant wrth yr olewydden, ‘Bydd di yn frenin arnom.’ Ond atebodd yr olewydden, ‘A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

10. Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

11. Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

12. Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

13. Ond atebodd y winwydden, ‘A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?’

14. Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’

Barnwyr 9