Barnwyr 9:51-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y dref, a ffodd y gwŷr a'r gwragedd i gyd yno, a holl benaethiaid y dref, a chloi arnynt ac esgyn i do'r tŵr.

52. Daeth Abimelech at y tŵr, ac ymladd yn ei erbyn; ac wrth iddo agosáu at fynediad y tŵr i'w losgi,

53. taflodd rhyw wraig faen melin i lawr ar ben Abimelech a dryllio'i benglog.

54. Ar unwaith galwodd ei lanc, a oedd yn cludo'i arfau, a dweud wrtho, “Tyn dy gleddyf a lladd fi, rhag iddynt ddweud amdanaf mai gwraig a'm lladdodd.” Felly trywanodd ei lanc ef, a bu farw.

55. Pan welodd yr Israeliaid fod Abimelech wedi marw, aeth pawb adref.

56. Felly y talodd Duw i Abimelech am y drygioni a wnaeth i'w dad trwy ladd ei ddeg brawd a thrigain.

57. Hefyd talodd Duw yn ôl holl ddrygioni pobl Sichem, a disgynnodd arnynt felltith Jotham fab Jerwbbaal.

Barnwyr 9