Barnwyr 9:32-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Yn awr, cychwyn di liw nos gyda'r bobl sydd gennyt, ac ymguddia allan yn y wlad;

33. yna, yfory ar godiad haul, gwna gyrch cynnar ar y dref, a phan ddaw ef a'r bobl sydd gydag ef allan i'th gyfarfod, gwna dithau iddo orau y medri.”

34. Cychwynnodd Abimelech a'r holl bobl oedd gydag ef liw nos, ac ymguddio yn bedair mintai yn erbyn Sichem.

35. Pan aeth Gaal fab Ebed allan a sefyll ym mynediad porth y dref, cododd Abimelech a'r dynion oedd gydag ef o'u cuddfan.

36. Gwelodd Gaal y bobl a dywedodd wrth Sebul, “Edrych, y mae pobl yn dod i lawr o gopaon y mynyddoedd.” Ond dywedodd Sebul wrtho, “Gweld cysgod y mynyddoedd fel pobl yr wyt.”

37. Yna dywedodd Gaal eto, “Y mae yna bobl yn dod i lawr o ganol y wlad, ac un fintai'n dod o gyfeiriad Derwen y Swynwyr.”

38. Atebodd Sebul, “Ple'n awr, ynteu, y mae dy geg fawr oedd yn dweud, ‘Pwy yw Abimelech, fel ein bod ni yn ei wasanaethu?’ Onid dyma'r fyddin y buost yn ei dilorni? Allan â thi yn awr i ymladd â hi!”

39. Arweiniodd Gaal benaethiaid Sichem allan, ac ymladd ag Abimelech.

Barnwyr 9