2. “Yr wyf am i chwi ofyn i holl benaethiaid Sichem, ‘Prun sydd orau gennych, cael eich llywodraethu gan yr holl ddeg a thrigain o feibion Jerwbbaal, ynteu cael eich llywodraethu gan un dyn? Cofiwch hefyd fy mod i o'r un asgwrn a chnawd â chwi.’ ”
3. Fe siaradodd brodyr ei fam amdano yng nghlyw holl benaethiaid Sichem, a dweud yr holl bethau hyn, ac yr oedd eu calon yn tueddu tuag at Abimelech am eu bod yn meddwl, “Y mae'n frawd i ni.”
4. Rhoesant iddo ddeg a thrigain o ddarnau arian o deml Baal-berith, ac â hwy fe gyflogodd Abimelech ddynion ofer a gwyllt i'w ddilyn.
5. Aeth i dŷ ei dad yn Offra, a lladd ar yr un maen bob un o'i frodyr, sef deng mab a thrigain Jerwbbaal. Ond arbedwyd Jotham, mab ieuengaf Jerwbbaal, am iddo ymguddio.
6. Yna daeth holl benaethiaid Sichem a phawb o Beth-milo ynghyd, a mynd a gwneud Abimelech yn frenin, ger y dderwen a osodwyd i fyny yn Sichem.
7. Pan ddywedwyd hyn wrth Jotham, fe aeth ef a sefyll ar gopa Mynydd Garisim a gweiddi'n uchel. Meddai wrthynt, “Gwrandewch arnaf fi, chwi benaethiaid Sichem, er mwyn i Dduw wrando arnoch chwithau.
8. Daeth y coed at ei gilydd i eneinio un o'u plith yn frenin.
9. Dywedasant wrth yr olewydden, ‘Bydd di yn frenin arnom.’ Ond atebodd yr olewydden, ‘A adawaf fi fy mraster, yr anrhydeddir Duw a dynion trwyddo, a mynd i lywodraethu ar y coed?’
10. Yna dywedodd y coed wrth y ffigysbren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’
11. Atebodd y ffigysbren, ‘A adawaf fi fy melystra a'm ffrwyth hyfryd, a mynd i lywodraethu ar y coed?’
12. Dywedodd y coed wrth y winwydden, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’
13. Ond atebodd y winwydden, ‘A adawaf fi fy ngwin melys, sy'n llonni Duw a dyn, a mynd i lywodraethu ar y coed?’
14. Yna dywedodd yr holl goed wrth y fiaren, ‘Tyrd di; bydd yn frenin arnom.’
15. Ac meddai'r fiaren wrth y coed, ‘Os ydych o ddifrif am f'eneinio i yn frenin arnoch, dewch a llochesu yn fy nghysgod. Onid e, fe ddaw tân allan o'r fiaren a difa cedrwydd Lebanon.’