14. daliodd un o fechgyn Succoth; wedi iddo'i holi, ysgrifennodd hwnnw iddo restr yn cynnwys saith deg a saith o arweinwyr a henuriaid Succoth.
15. Pan ddaeth at bobl Succoth, dywedodd, “Dyma Seba a Salmunna, y buoch yn eu dannod imi, gan ofyn, ‘A wyt eisoes yn cydio yn sodlau Seba a Salmunna, fel ein bod i roi bwyd i'th ddynion lluddedig?’ ”
16. Yna cymerodd henuriaid y dref, a dysgodd wers i bobl Succoth â drain a mieri'r anialwch.
17. Tynnodd i lawr dŵr Penuel, a lladdodd bobl y dref.
18. Pan holodd ef Seba a Salmunna, “Sut rai oedd y dynion a laddasoch yn Tabor?”, eu hateb oedd: “Yr oedd pob un ohonynt yr un ffunud â thi, yn edrych fel plant brenin.”
19. Ac meddai Gideon, “Fy mrodyr i oeddent, meibion fy mam. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, pe byddech wedi eu harbed, ni fyddwn yn eich lladd.”
20. Yna dywedodd wrth Jether ei gyntafanedig, “Dos, lladd hwy.” Ond ni thynnodd y llanc ei gleddyf oherwydd yr oedd arno ofn, gan nad oedd ond llanc.
21. Yna dywedodd Seba a Salmunna, “Tyrd, taro ni dy hun, oherwydd fel y mae dyn y mae ei nerth.” Felly cododd Gideon a lladd Seba a Salmunna, a chymryd y tlysau oedd am yddfau eu camelod.
22. Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Gideon, “Llywodraetha di arnom, ti a'th fab a mab dy fab, am iti ein gwaredu o law Midian.”
23. Dywedodd Gideon wrthynt, “Nid myfi na'm mab fydd yn llywodraethu arnoch; yr ARGLWYDD fydd yn llywodraethu arnoch.”