7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref.”
8. Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn.
9. Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.
10. Os oes arnat ofn mynd, dos â Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll,
11. a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll.” Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll.
12. Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi â thywod glan y môr.