Barnwyr 7:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, ‘Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.’

3. Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, ‘Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.’ ” Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl.

Barnwyr 7